100% of Welsh universities divest from fossil fuels

5 Dec 2024 08:42,
University of South Wales building

Every university across Wales has now committed to divesting from the fossil fuel industry. This milestone was solidified by a decision from the University of South Wales to exclude fossil fuel extractor companies from its investment portfolios.

Earlier this week, it was revealed that over 75% of UK universities [1] have now divested from the fossil fuel industry, illustrating how cutting financial ties with the industry is being increasingly recognised as a step that aligns with university goals and values.

Laura Clayson, Campaign Manager: Climate Justice, said of this announcement, “This news is incredibly significant given how fossil fuels have shaped the nation’s recent history and landscape. It is an act of solidarity with frontline communities globally, as well as those within Wales itself. This includes the community surrounding the controversial Ffos-y-Fran, the UK’s last and largest open cast coal mine, which closed in 2023. The community continues to have to fight for justice, for everything from health impacts to restoration of the area, as the mining company continues to break their promises on each and every front. We hope this news provides some additional strength to their struggle.”

The University of South Wales is not only the latest university to divest from the fossil fuel industry but has also just become the latest university to exclude the border industry from its investment portfolio. This decision ensures that companies involved in border security, detention, surveillance and deportation of migrants will no longer receive financial support from the university.

The university announced its commitment to exclude border industry and fossil fuel companies from all its investments by updating its Investment Policy. This victory was revealed by People & Planet University League research. The People & Planet University League is the only comprehensive and independent league table of UK universities ranked by environmental and ethical performance. The 2024-25 dataset is due to be launched imminently.

Students have been at the forefront of these campaigns for justice, securing 116 wins on Fossil Free and 6 on Divest Borders to date. In the face of intersecting crises of climate collapse, mass displacement and increasing border violence, young people have been clear that any truly effective solutions must address the overlapping nature of the systems that create and sustain these injustices.

Both Divest Borders and Fossil Free are led by the student network of People & Planet which, since its inception in 1969, has been supporting students to fight for social and environmental justice on their campuses. The student-led charity began its flagship Fossil Free campaign in 2013 and Divest Borders in 2021. Both campaigns make use of the tactic of public divestment announcements to delegitimise their target industries. These challenge the social licence of these companies to continue with their destructive operations.

The Divest Borders campaign demands that UK universities exclude the companies complicit in maintaining the UK’s violent border industry as an act of solidarity with those impacted by its operations, which includes harms such as detention, deportation and the disproportionate surveillance of racialised communities. The Fossil Free campaign demands fossil fuel industry exclusions in recognition of the industry’s role in the climate crisis, and in solidarity with the frontline and Indigenous communities experiencing the sharp end of the injustices wrought by fossil fuel operations and climate impacts.

André Dallas, Co-Director: Migrant Justice at People & Planet, said: “It is great to see that the University of South Wales has not only divested from fossil fuels, but has also committed to exclude all companies profiting from the detention, deportation and surveillance of migrating people. Students are clear that their universities must stand for justice, community and progress not only in their prospectuses but in their policies and actions. That all of Wales has turned its back on the fossil fuel industry is momentous - we look forward to all Welsh universities taking analogous steps to cut ties with the brutality of the border industry.”

Navid Sharif, Vice-President Activities at University of South Wales Students' Union, said: "As the Vice President of the University of South Wales Students' Union, I am incredibly thrilled to celebrate the University's ethical investment policy and its firm stance on excluding fossil fuels and the border industry. These exclusions reflect the values of our student community and mark the culmination of discussions that have been ongoing since 2022, including key focus at the January AGM 2024.

This commitment highlights the urgent need for action on climate and social justice, and we are thrilled that USW is leading the way as part of a wider movement, with all Welsh universities now fully Fossil Free. We hope this momentum continues, inspiring further progress, such as ensuring the exclusion of the border industry across Wales.

At USW, our students care deeply about sustainability, and this milestone showcases what can be achieved when institutions listen to their communities. We are excited to build on this success and continue driving positive change towards a more equitable, low-carbon future for all."

Rachel Elias-Lee, Chief Finance Officer at the University of South Wales, said: "At USW, we are committed to achieving Net Zero Carbon by 2040, and minimising our impact on the planet. As part of this ambitious target, USW's Ethical Investment Policy defines our strong intention to exclude direct investment in companies that are incompatible with our carbon reduction efforts, which has been our approach for the past few years.

We avoid fossil fuel related investments and instead support organisations that positively impact the environment. By doing this we are helping to accelerate renewable energy generation whilst demonstrating our commitment to a low carbon, sustainable future for all.

This is alongside the policy's wider social reach, ensuring that we avoid industries trading in arms and tobacco, and restrict investment in companies that, for example, have unethical supply chains or are complicit in border violence. We work closely with our fund managers to enact this and to make sure our investments do not have a negative impact on society."

---

Mae pob prifysgol ledled Cymru bellach wedi ymrwymo i ddadfuddsoddi o’r diwydiant tanwydd ffosil. Cadarnhawyd y garreg filltir hon gan benderfyniad Prifysgol De Cymru i eithrio cwmnïau tanwydd ffosil o'u portffolio buddsoddiadau.

Yn gynharach yr wythnos hon, datgelwyd bod dros 75% o brifysgolion y DU [1] bellach wedi dadfuddsoddi o’r diwydiant tanwydd ffosil, gan ddangos sut mae torri cysylltiadau ariannol â’r diwydiant yn cael ei gydnabod fwyfwy fel cam sy’n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd prifysgolion.

Meddai Laura Clayson, Rheolwr Ymgyrch: Cyfiawnder Hinsawdd, am y cyhoeddiad hwn, “Mae’r newyddion hyn yn hynod arwyddocaol o ystyried sut mae tanwyddau ffosil wedi llunio hanes a thirwedd diweddar y wlad. Mae’n weithred o undod gyda chymunedau rheng flaen yn fyd-eang, yn ogystal â’r rhai yng Nghymru ei hun. Mae hyn yn cynnwys y gymuned yn ardal Ffos-y-Fran, sef safle glo brig olaf a mwyaf y DU, a gaeodd yn 2023. Mae'r gymuned yn parhau i orfod ymladd dros gyfiawnder, am bopeth o effeithiau iechyd i adfer yr ardal, wrth i'r cwmni mwyngloddio barhau i dorri eu haddewidion ar bob cyfle. Gobeithiwn y bydd y newyddion hyn yn rhoi rhywfaint o nerth ychwanegol i’w brwydr.”

Nid yn unig yw Prifysgol De Cymru'r brifysgol ddiweddaraf i ddadfuddsoddi o’r diwydiant tanwydd ffosil, ond mae hefyd newydd ddod y brifysgol ddiweddaraf i eithrio’r diwydiant ffiniau o'u portffolio buddsoddiadau. Mae'r penderfyniad hwn yn sicrhau na fydd cwmnïau sy'n ymwneud â diogelwch ffiniau, cadw pobl yn y ddalfa, gwyliadwriaeth ac alltudio mudwyr yn cael cymorth ariannol gan y brifysgol mwyach.

Cyhoeddodd y brifysgol eu hymrwymiad i eithrio’r diwydiant ffiniau a chwmnïau tanwydd ffosil o'u holl fuddsoddiadau trwy ddiweddaru eu Polisi Buddsoddi. Datgelwyd y fuddugoliaeth hon gan ymchwil Cynghrair Prifysgolion People & Planet. Cynghrair Prifysgolion People & Planet yw'r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU yn ôl eu perfformiad amgylcheddol a moesegol. Disgwylir i set ddata 2024-25 gael ei lansio’n fuan.

Mae myfyrwyr wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrchoedd hyn dros gyfiawnder, gan sicrhau 116 buddugoliaeth mewn ymgyrchoedd Di-Ffosil a 6 ar Ddadfuddsoddi o’r Diwydiant Ffiniau hyd yma. Yn wyneb argyfyngau croestoriadol o’r argyfwng hinsawdd, dadleoli torfol a thrais cynyddol ar ein ffiniau, mae pobl ifanc wedi bod yn glir bod yn rhaid i unrhyw ddatrysiadau gwirioneddol effeithiol fynd i'r afael â natur gorgyffwrdd y systemau sy'n creu ac yn cynnal yr anghyfiawnderau hyn.

Mae’r ymgyrchoedd Dadfuddsoddi o’r Diwydiant Ffiniau a Di-Ffosil yn cael eu harwain gan rwydwaith myfyrwyr People & Planet sydd, ers ei sefydlu ym 1969, wedi bod yn cefnogi myfyrwyr i frwydro dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ar eu campysau. Dechreuodd yr elusen sy’n cael ei harwain gan fyfyrwyr ei hymgyrch Ddi-Ffosil flaenllaw yn 2013 a Dadfuddsoddi o’r Diwydiant Ffiniau yn 2021. Mae'r ddwy ymgyrch yn defnyddio tacteg o gyhoeddiadau cyhoeddus ynghylch dadfuddsoddi i ddadgyfreithloni’r diwydiannau y maent yn eu targedu. Mae'r rhain yn herio trwydded gymdeithasol y cwmnïau hyn i barhau â'u gweithrediadau dinistriol.

Mae ymgyrch Dadfuddsoddi o’r Diwydiant Ffiniau’n mynnu bod prifysgolion y DU yn eithrio’r cwmnïau sy’n rhan o’r gwaith o gynnal diwydiant ffiniau treisgar y DU fel gweithred o undod â’r rhai y mae eu gweithrediadau’n effeithio arnynt, sy’n cynnwys niwed fel cadw pobl yn y ddalfa, alltudio a gwyliadwriaeth anghymesur o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth. Mae'r ymgyrch Ddi-Ffosil yn mynnu gwaharddiadau o'r diwydiant tanwydd ffosil i gydnabod rôl y diwydiant yn yr argyfwng hinsawdd, ac mewn undod â'r cymunedau rheng flaen a chynhenid sy'n dioddef yn uniongyrchol yn sgil yr anghyfiawnderau a achosir gan weithrediadau tanwydd ffosil ac effeithiau hinsawdd.

Meddai André Dallas, Cyd-gyfarwyddwr: Cyfiawnder Mudwyr yn People & Planet: “Mae’n wych gweld bod Prifysgol De Cymru nid yn unig wedi dadfuddsoddi o danwydd ffosil, ond hefyd wedi ymrwymo i eithrio pob cwmni sy’n elwa o gadw pobl yn y ddalfa, alltudio a gwyliadwriaeth pobl sy’n mudo. Mae myfyrwyr yn glir bod yn rhaid i'w prifysgolion sefyll dros gyfiawnder, cymuned a chynnydd, nid yn unig yn eu prosbectws ond yn eu polisïau a'u gweithredoedd. Mae’r ffaith bod Cymru gyfan wedi troi ei chefn ar y diwydiant tanwydd ffosil yn hollbwysig – edrychwn ymlaen at weld holl brifysgolion Cymru’n cymryd camau tebyg i dorri cysylltiadau â chreulondeb y diwydiant ffiniau.”

Meddai Navid Sharif, Is-lywydd Gweithgareddau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru: “Fel Is-lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru, rwyf wrth fy modd yn dathlu polisi buddsoddi moesegol y Brifysgol a’i safiad cadarn ar eithrio tanwyddau ffosil a’r diwydiant ffiniau. Mae’r eithriadau hyn yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymuned o fyfyrwyr ac yn nodi penllanw trafodaethau sydd wedi bod yn mynd rhagddynt ers 2022, gan gynnwys ffocws allweddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ionawr 2024.

Mae’r ymrwymiad hwn yn amlygu’r angen dybryd am weithredu ar yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol, ac rydym wrth ein bodd bod PDC yn arwain y ffordd fel rhan o fudiad ehangach, gyda holl brifysgolion Cymru bellach yn gwbl Ddi-ffosil. Gobeithiwn y bydd y momentwm hwn yn parhau, gan ysbrydoli cynnydd pellach, megis sicrhau bod y diwydiant ffiniau’n cael ei eithrio ledled Cymru.

Ym Mhrifysgol De Cymru, mae cynaladwyedd yn bwysig iawn i’n myfyrwyr, ac mae’r garreg filltir hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n gwrando ar eu cymunedau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i ysgogi newid cadarnhaol tuag at ddyfodol carbon isel tecach i bawb."


Dywedodd Rachel Elias-Lee, Prif Swyddog Cyllid ym Mhrifysgol De Cymru: “Yn PDC, rydym wedi ymrwymo i gyflawni Sero Net o ran Carbon erbyn 2040, a lleihau ein heffaith ar y blaned. Fel rhan o’r targed uchelgeisiol hwn, mae Polisi Buddsoddi Moesegol Prifysgol De Cymru yn diffinio ein bwriad cryf i eithrio buddsoddiad uniongyrchol mewn cwmnïau sy’n anghydnaws â’n hymdrechion i leihau allyriadau carbon, sef ein hymagwedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Rydym yn osgoi buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â thanwydd ffosil, ac yn hytrach yn cefnogi sefydliadau sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Trwy wneud hyn rydym yn helpu i gyflymu’r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy tra’n dangos ein hymrwymiad i ddyfodol carbon isel, cynaliadwy i bawb.

“Mae hyn ynghyd â chyrhaeddiad cymdeithasol ehangach y polisi, gan sicrhau ein bod yn osgoi diwydiannau sy’n masnachu mewn arfau a thybaco, ac yn cyfyngu ar fuddsoddiad mewn cwmnïau sydd, er enghraifft, â chadwyni cyflenwi anfoesegol neu sy’n rhan o drais ar ein ffiniau. Rydym yn gweithio’n agos gyda rheolwyr ein cronfa ariannol i weithredu hyn ac i wneud yn siŵr nad yw ein buddsoddiadau’n cael effaith negyddol ar gymdeithas.”

Scroll to top